Tokyo 2020 Gold medalist, Jim Roberts MBE Ply - Credit: Megumi Masuda

Cymru I’r Llwyfan Byd

Mae Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr, Chwaraeon Anabledd Cymru ac yr Undeb Rygbi Cymru yn gweithio ar y cyd i darganfod a datblygu’r genhedlaeth nesaf o sêr rygbi cadair olwyn Cymru. Rydym yn chwilio am ddynion a merched ag anabledd corfforol sy’n angerddol ac yn gyffrous am chwaraeon, sydd eisiau fod y gorau y gallant fod, ac sydd am archwilio eu potensial mewn rygbi cadair olwyn.

Nid oes angen i chi gael unrhyw brofiad o chwarae rygbi cadair olwyn – efallai eich bod yn chwarae camp wahanol ac yn teimlo y gallai rygbi cadair olwyn fod yn gamp yr ydych yn rhagori ynddi neu efallai eich bod wedi darganfod y gamp trwy Bencampwriaeth Ewrop, a hyn fydd eich tro cyntaf i roi cynnig ar gamp cadair olwyn.

Pwy ddylai wneud cais?

  • 8 i 35 mlwydd oed
  • efo anabledd corfforol sy’n achosi nam mewn y choes neu/ a fraich
  • eisiau cystadlu yn y Gemau Paralympaidd

Sut fydd y diwrnod yn edrych

Ar hyn o bryd mae gennym ddigwyddiad adnabod talent ar y gweill

  • Dydd Sadwrn, 8 Gorffennaf ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ond peidiwch â phoeni os na allwch wneud y diwrnod yma, dylech parhau i wneud cais a byddwn mewn cysylltiad â chyfleoedd eraill i gymryd rhan.

Bydd ein diwrnodau talent yn cael eu cyflwyno gan hyfforddwyr llwybr profiadol a fydd yn rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar rygbi cadair olwyn mewn amgylchedd hwyliog, gyda chefnogaeth. Bydd yr holl offer yn cael eu darparu, gan gynnwys cadeiriau a menig, a bydd ein staff yn eich cyflwyno i rygbi cadair olwyn mewn ffordd y byddwch yn gyfforddus efo.

Yn ystod y sesiwn byddwch yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau sylfaenol y gamp a’u rhoi ar waith mewn gemau. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i roi cynnig ar rai o’n profion corfforol sy’n mesur eich cyflymder, cyflymiad a’ch gallu i symud. Bydd ein staff hyfforddi a chefnogi yn monitro eich perfformiad ac yn rhoi adborth i chi yn ystod ac ar ôl y sesiwn.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y ffurflen gais – bydd hyn yn ein helpu i ddeall a ydych yn addas ar gyfer rygbi cadair olwyn a byddwn mewn cysylltiad i drefnu’r camau nesaf.

Beth yw rygbi cadair olwyn?

Pam rygbi cadair olwyn?

“Mae rygbi cadair olwyn wedi rhoi fy llawenydd ar gyfer chwaraeon yn ôl. Mae bod ar y llwybr talent wedi fy annog i anelu at chwaraeon elitaidd eto; mae cefnogaeth hyfforddwyr a chwaraewyr eraill yn caniatáu i mi wthio fy hun tra fy mod i’n mwynhau fy hun”

Harri, 26

“Mae bod ar y llwybr talent wedi bod yn hynod fuddiol i mi. Mae wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau, tactegau a gwybodaeth. Mae’r llwybr hefyd wedi rhoi darlun cliriach i mi o’r hyn sydd ei angen i chwarae ar y lefel uchaf.”

Gemma, 23

“Mae llwybr talent Prydain Fawr wedi rhoi cymaint i mi, ar y cwrt ac oddi arno. Yn ystod fy amser yn y garfan rwyf wedi tyfu fel chwaraewr, wedi dod yn ddechreuwr i fy nhîm ac yn gyffredinol wedi magu llawer o hyder yn fy set sgiliau trwy lefel arbenigol yr hyfforddiant a rheolaeth a ddarperir gan y staff talentog – hebddynt ni fyddwn i’r chwaraewr ydw i heddiw. Oddi ar y cwrt rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau sydd wedi helpu i hybu fy sgiliau cymdeithasol, fel siarad o flaen grwpiau mawr. Mae’r profiad ar y llwybr talent yn ei gyfanrwydd yn gwbl amhrisiadwy i adeiladu’r sylfeini ar gyfer unrhyw un sydd â’r egni, yr uchelgais a’r ymrwymiad i ddod yn un o athletwyr gorau’r wlad, neu’r byd.”

Luc, 24

“Mae rygbi cadair olwyn wedi fy ngwneud yn berson cryfach, iachach a mwy annibynnol. Rwyf hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau gwych, wedi dysgu sgiliau newydd, ac wedi cael y cyfle i hyfforddi a chystadlu ar lefel uchel trwy fod yn rhan o’r llwybr talent.”

Sam, 29